Mae ein 230 o gymwysterau israddedig ac ôl-raddedig yn meithrin arbenigedd manwl, y mae galw amdano, er mwyn helpu sefydliadau i gamu i'r dyfodol yn hyderus.
Efallai y byddai eich busnes chi'n elwa ar chwistrelliad o syniadau a ffordd o feddwl newydd, ac os felly, beth am ymuno â'r 2,800 o gyflogwyr sy'n gweithio gyda'r Brifysgol Agored i ddatblygu sgiliau eu staff a chryfhau eu busnes.
Mae astudiaeth israddedig yn adeiladu ar yr hyn a ddysgodd eich cyflogeion yn yr ysgol neu goleg..
Gradd Anrhydedd yw'r cymhwyster israddedig mwyaf poblogaidd. Fodd bynnag, mae pob cyfnod (blwyddyn) o fewn gradd yn gymhwyster yn ei hun.
Golyga hyn y gellir astudio ein rhaglenni israddedig fel cymwysterau annibynnol, neu eu defnyddio fel pont i fynd ymlaen o un i'r llall.
Cymhwyster | Modiwlau annibynnol | Tystysgrif Addysg Uwch | Diploma Addysg Uwch | Gradd Anrhydedd |
---|---|---|---|---|
Yn dda ar gyfer datblygu | Gwybodaeth benodol | Sylfaen gadarn | Mewnwelediadau manwl | Arbenigedd cynhwysfawr |
Cyfnod / Lefel | Amherthnasol Gellir dewis o ddetholiad ar unrhyw gyfnod o'r radd |
Cyfnod 1 Lefel 4 - Cyfwerth â blwyddyn gyntaf gradd israddedig llawn amser |
Cyfnod 2 Lefel 5 - Cyfwerth â dwy flynedd gyntaf gradd israddedig llawn amser |
Cyfnod 3 Lefel 6 - Gradd israddedig gyflawn |
Cyfanswm credydau | 15 i 60 credyd | 120 credyd | 240 credyd | 360 credyd |
Hyd nodweddiadol | 6 mis i flwyddyn rhan amser | 2 flynedd rhan amser | 4 blynedd rhan amser | 6 mlynedd rhan amser |
Nid oes gan y rhan fwyaf o'n rhaglenni israddedig ofynion mynediad ffurfiol er mwyn datblygu sgiliau eich staff, waeth pa fath o addysg maen nhw wedi'i chael.
Os oes gan eich cyflogai radd israddedig, efallai mai astudiaeth ôl-raddedig yw'r cam nesaf.
Mae cymwysterau ôl-raddedig yn galluogi dysgwyr i gyfoethogi eu dealltwriaeth o bynciau maen nhw eisoes wedi'u hastudio, neu astudio arbenigedd newydd yn eu maes.
Fel cyflogwr - sy'n datblygu eich doniau gyda'r Brifysgol Agored - byddwch yn elwa o ddefnyddio ffordd o feddwl arloesol, sy'n seiliedig ar ymchwil, o fewn heriau eich busnes.
Cymhwyster | Modiwlau annibynnol | Tystysgrif Ôl-raddedig | Diploma Ôl-raddedig | Gradd Meistr |
---|---|---|---|---|
Yn ddelfrydol ar gyfer | Gwybodaeth benodol | Datblygu gyrfa | Mewnwelediad proffesiynol mwy manwl | Arbenigedd proffesiynol manwl |
Lefel | Amherthnasol | Lefel 7 | Lefel 7 | Lefel 7 |
Cyfanswm credydau | 15 i 120 credyd | 60 credyd | 120 credyd | 180 credyd |
Hyd nodweddiadol | 3 mis i flwyddyn rhan amser | 1 flwyddyn rhan amser | 2 flynedd rhan amser | 3 blynedd rhan amser |
Mae graddau ôl-raddedig yn adeiladu ar astudiaeth israddedig, felly mae'n ofynnol bod ymgeiswyr wedi cwblhau gradd Anrhydedd er mwyn ymgeisio. Bydd hyn yn sicrhau eu bod nhw'n manteisio i'r eithaf ar eu modiwlau, a'u bod nhw'n hyderus wrth fynd ati i ddefnyddio'r hyn a ddysgwyd yn y gweithle.
Mae ein Cymwysterau agored (BA/BSc Agored ac MA/MS Agored) yn gyrsiau hyblyg a ellir eu haddasu i fodloni anghenion penodol eich sector, eich sefydliad neu ddysgwr.
Mae'r rhaglenni hyn yn cynnwys amrywiaeth heb ei hail o fodiwlau mewn disgyblaethau gwahanol, a gellir eu haddasu wrth i'ch anghenion newid.
Er enghraifft, sicrhewch fod eich cyflogai'n dechrau arni gyda modiwlau sy'n benodol i'r sector - megis rhaglennu Java neu iechyd a gofal cymdeithasol - yna gall fynd ymlaen at fodiwlau strategaeth a rheoli wrth ddatblygu o fewn ei yrfa.
Darllenwch fwy am ein cymwysterau Agored
Mae Modiwlau Mynediad yn eich caniatáu chi a'ch cyflogai i roi cynnig ar ddysgu o bell ac astudio pellach.
Maen nhw'n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sydd eisiau gwella eu hyder a'u sgiliau astudio cyn ymrwymo i radd. Maen nhw'n ddelfrydol hefyd i bobl nad ydynt wedi astudio'n ffurfiol ers peth amser.
Gallant fod am ddim i bobl sy'n ffitio meini prawf penodol. Cysylltwch â ni i gael rhagor o fanylion.
Modiwlau Mynediad:
Maen nhw'n cyflwyno dysgwyr i'n dulliau addysgu, ac yn eu helpu nhw i ddatblygu'r ddisgyblaeth i ddysgu ar eu liwt eu hunain. Efallai mai dyma pam bod myfyrwyr sy'n cwblhau modiwl mynediad yn fwy tebygol o lwyddo yn ystod Cyfnod 1...
Gallwch ddewis o blith:
Darllenwch fwy am Fodiwlau Mynediad
Os oes gennych ddiddordeb mewn noddi cyflogai gyda rhaglen israddedig neu ôl-raddedig, efallai y byddwch angen ysgrifennu achos busnes i sicrhau cyllideb a chefnogaeth. Helpu i gyfleu'r buddion i'ch busnes:
Rhowch hwb i'ch busnes gydag opsiynau astudio sy'n cyd-fynd â'ch anghenion:
Os ydych angen unrhyw gymorth o ran deall sut allwn helpu'ch sefydliad, siaradwch â'n tîm busnes dros y ffôn neu drwy e-bost.
English | Cymraeg
Please contact us to speak to one of our business team advisors.
Sign up to receive regular emails that are full of advice and resources to support staff development in your organisation.