Nid yw prentisiaethau’n golygu eich bod yn peryglu’ch buddsoddiad nac yn cyfaddawdu ansawdd. Mae hyn yn eithriadol o wir am brentisiaethau sy’n cael eu darparu gan y brifysgol flaenllaw mewn dysgu sy’n cael ei hwyluso gan dechnoleg a’i chefnogi gan diwtoriaid.
Pa un ai eich bod eisiau hyfforddi cyflogeion newydd neu gyfredol, rydym yn cynnig y Brentisiaeth Gradd Peirianneg Feddalwedd Gymhwysol i sefydliadau preifat, cyhoeddus ac yn y trydydd sector - rydym hefyd wrthi’n datblygu mwy.
Drwy’r Brifysgol Agored yng Nghymru, gallwch elwa o:
Gallwn gael gwared ar y strach sydd ynghlwm â rheoli prentisiaeth gyda’n pecyn datrys cyflawn, o ddod o hyd i ddoniau a chynlluniau datblygu i weinyddiaeth allanol, ariannu a llunio adroddiadau ROI.
Mae rhaglen Prentisiaeth Gradd Peirianneg Feddalwedd Gymhwysol y Brifysgol Agored yng Nghymru (OUiW) yn darparu‘r wybodaeth, y sgiliau a’r nodweddion ymddygiadol y mae prentisiaid eu hangen i fod yn weithiwyr peirianneg feddalwedd proffesiynol.
English | Cymraeg
Cofiwch gysylltu â ni er mwyn siarad ag un o ymgynghorwyr ein tîm busnes.
Sign up to receive regular emails that are full of advice and resources to support staff development in your organisation.