Gradd-brentisiaeth Ddigidol (yng Nghymru)

BSc (Anrhydedd)

Bydd prentisiaid yn ennill sgiliau i yrru arloesedd drwy dechnolegau digidol, gan ddatblygu arbenigedd mewn gwyddor data, rheoli seiberddiogelwch neu peirianneg meddalwedd.

Lawrlwytho’r pamffled Dechrau arni

English | Cymraeg

Gradd-brentisiaeth Ddigidol (yng Nghymru)

Mae Gradd-brentisiaeth Ddigidol y Brifysgol Agored (yng Nghymru) yn datblygu gweithwyr proffesiynol hyderus a galluog sydd â'r sgiliau i bweru trawsnewid digidol ar draws pob sector.

Mae ein model dysgu hyblyg unigryw yn galluogi prentisiaid i ffynnu yn eu hastudiaethau ochr yn ochr ag ymrwymiadau gwaith, tra bod cyflogwyr yn elwa o biblinell gynaliadwy o dalent ym maes technoleg sy'n addas ar gyfer y dyfodol, sy'n amrywiol ac yn alluog — i gyd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Medr, gyda chefnogaeth gan yr Ardoll Brentisiaethau ledled y DU.

Rydym yn croesawu ymholiadau a cheisiadau ar hyn o bryd ar gyfer y rhaglen hon. Noder y bydd cynigion lleoedd yn cael eu cadarnhau unwaith y bydd dyraniadau cyllid prentisiaeth i'r Brifysgol Agored gan Medr ar gyfer Hydref 2026 wedi'u cwblhau.

Cipolwg:

  • Yn galluogi prentisiaid i ddatblygu eu gyrfaoedd yn y sector digidol.
  • Yn cefnogi cyflogwyr i uwchsgilio staff presennol neu ddod â thalent newydd i mewn ar gyfer twf tymor hir.
  • Yn helpu i gau'r bwlch sgiliau digidol ac yn diogelu sefydliadau ar gyfer y dyfodol.
  • Yn addas ar gyfer busnesau o bob maint, o fentrau preifat i rai sector cyhoeddus, megis mentrau bach-canolig (BBaChau), llywodraeth leol a chanolig, y GIG a sefydliadau preifat mawr.
  • Manteisio ar fuddsoddiadau trawsnewid a gwella twf.
  • Dysgu hyblyg, cynhwysol a chefnogol heb fod angen unrhyw gymwysterau blaenorol. Mae ein rhaglenni ar-lein dan arweiniad tiwtor, ar eich cyflymder eich hun yn cyfuno astudio anghydamserol â chefnogaeth ymroddedig, gan helpu prentisiaid i gydbwyso gwaith ac astudio wrth ddiwallu anghenion busnes.

Lefel: Gradd-brentisiaeth Ddigidol Lefel 6


Dull astudio: Dysgu ar-lein/cymysg gyda chefnogaeth tiwtor


Hyd: 3 blynedd


Cyllid: Gweler ffioedd a chyllid


Gofynion mynediad: Gweler y gofynion mynediad


Ar gael yn: Cymru'n unig (yn destun i gadarnhad o ddyraniadau gan Medr)

Yn chwilio am hyfforddiant yn Lloegr? Edrychwch ar ein Gradd-brentisiaeth Broffesiynol Datrysiadau Digidol a Thechnoleg.


Ynglŷn â'r Gradd-brentisiaeth Ddigidol

Mae'r Gradd-brentisiaeth Ddigidol yn rhaglen addysg uwch sy'n seiliedig ar waith ac sy'n integreiddio dysgu academaidd a dysgu seiliedig ar waith mewn ffordd y gellir ei chyflwyno'n hyblyg o amgylch gofynion eich gweithle.


Wrth i dechnolegau gydgyfeirio a chyflymder newid digidol gyflymu, mae'r rhaglen hon yn cefnogi prentisiaid i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau craidd angenrheidiol i gyfrannu at brosiectau digidol ar draws eich sefydliad, yn ogystal â'r meddylfryd i'w galluogi i uwchraddio'n barhaus wrth i dechnolegau ddatblygu.

Mae'r Radd-brenisiaeth Ddigidol graidd yn darparu'r ddealltwriaeth dechnegol eang i weithredu fel rhan o dîm ehangach sy'n gweithio gydag arbenigwyr ym maes dadansoddi, dylunio, adeiladu, gwerthuso a diogelwch meddalwedd, atebion data, gwasanaethau a rhwydweithiau. Mae hyn yn cynnwys y gallu i gefnogi strategaeth busnes a rheoli, gweithio gyda defnyddwyr terfynol, a datblygu datrysiadau.

Yn ychwanegol i'r rhaglen graidd, mae'r Brifysgol Agored yn cynnig tri arbenigedd lle bydd prentisiaid yn datblygu sgiliau ymarferol, gwybodaeth a chymhwysedd lefel uwch mewn:

Cyber Security

Rheoli Diogelwch Seiber

Data Analysis

Gwyddor Data

Software Engineering

Peirianneg Meddalwedd

Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio ar gyfer unigolion sydd am ddatblygu eu gyrfaoedd mewn peirianneg meddalwedd, gwyddor data neu reoli diogelwch seiber.

  • Mae strwythur y rhaglen yn cefnogi prentisiaid i ddatblygu eu gyrfaoedd digidol eu hunain.
  • Mae'r rhaglen ar gael i weithwyr presennol ar gyfer dilyniant gyrfa a datblygu sgiliau, yn ogystal â recriwtio talent newydd a thyfu eich tîm.
  • Yn ddelfrydol ar gyfer cyflogwyr ar draws pob diwydiant - o fentrau preifat o bob maint i Ymddiriedolaethau'r GIG, cynghorau a llywodraeth - sydd yn edrych i lenwi bylchau sgiliau digidol a diogelu eu gweithluoedd ar gyfer y dyfodol.

Gwyliwch y fideo isod i weld sut rydym yn gweithio gyda'r cwmni yswiriant Admiral i ddarparu gradd-brentisiaethau digidol yng Nghymru.

Nid oes rhaid i brentisiaid gael cymwysterau ffurfiol i ddechrau'r rhaglen hon, ond mae'n rhaid i brentisiaid fod wedi'u cyflogi gan sefydliad sy'n fodlon eu cefnogi drwy'r brentisiaeth.

I fod yn gymwys i gael cyllid gan y llywodraeth, rhaid i brentisiaid:

  • Fod yn 16 oed neu'n hŷn
  • Peidio â bod mewn addysg llawn amser
  • Peidio â bod mewn prentisiaeth arall y barod
  • Bod â'r hawl i fyw a gweithio yng Nghymru
  • Treulio o leiaf 51% o'u horiau gwaith yng Nghymru

Mae'r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sy'n anelu at ddatblygu gyrfaoedd mewn rheoli seiberddiogelwch, gwyddor data neu beirianneg meddalwedd. Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar yr adran 'Ar gyfer pwy mae'r rhaglen hon?' uchod.

Yn chwilio am raglenni yn Lloegr? Edrychwch ar ein Gradd-brentisiaeth Broffesiynol Datrysiadau Digidol a Thechnoleg.

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, bydd prentisiaid yn ennill Gradd-brentisiaeth Ddigidol BSc (Anrhydedd) gan y Brifysgol Agored.


Rhagoriaeth academaidd

Mae'r radd-brentisiaeth hon wedi'i datblygu o'r cychwyn cyntaf i ddiwallu anghenion gweithle heddiw. Mae pob modiwl wedi'i greu gan ein hacademyddion o'r radd flaenaf yn benodol ar gyfer ein prentisiaethau digidol, felly gallwch fod yn hyderus bod y dysgu'n gyfredol, yn berthnasol i'r diwydiant ac wedi'i gynllunio i gyflawni effaith o'r diwrnod cyntaf.

Gyda mwy na 50 mlynedd o arbenigedd mewn addysg o bell ac enw da ledled y byd am ddysgu hyblyg, mae'r Brifysgol Agored yn arweinydd mewn datblygu gradd-brentisiaethau sy'n cyfuno trylwyredd â pherthnasedd i'r byd go iawn.

Mae ein henw da am ansawdd yn cael ei gydnabod yn genedlaethol:

  • Prifysgol y Flwyddyn 2025
  • Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu Safon Aur
  • Bodlonrwydd myfyrwyr eithriadol (NSS, 2025)): addysgu (92.8%), sefydliad (90%), ac asesu ac adborth (89.2%)
  • Mae darpariaeth prentisiaethau yn Lloegr wedi'i graddio'n 'Dda' gan Ofsted, 2025
Academic excellence

Cwrdd â rhai o'r arbenigwyr a fydd yn eich tywys ar eich taith:

Academic one

Shawn Appleyard

Darlithydd mewn Cyfrifiadura a Chyfathrebu yn arbenigo mewn Rhwydweithio a Seiberddiogelwch

Academic two

Dr. Autumn Thomson

Uwch Ddarlithydd a Thiwtor Staff, arbenigwr mewn peirianneg meddalwedd, addysg gyfrifiadurol, prentisiaethau, dylunio cwricwlwm, a sicrhau ansawdd

Academic three

Martin Rothwell

Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadura a Chyfathrebu (Gradd-brentisiaethau Digidol), yn arbenigo mewn seiberddiogelwch, dadansoddi data, a rheoli prosiectau


Gwybodaeth am y rhaglen

Mae'r rhaglen hon wedi'i datblygu o amgylch set graidd o bynciau, wedi'u hategu gan gynnwys arbenigol wedi'i deilwra i un o'r tri maes arbenigedd canlynol gan alluogi prentisiaid i adeiladu sylfaen gadarn wrth ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eu harbenigedd dewisol.

  • Rheoli Diogelwch Seiber
  • Gwyddor Data
  • Peirianneg Meddalwedd

Mae'r brentisiaeth tair blynedd hon wedi'i chynllunio i gael ei chwblhau mewn tri cham. Mae pob cam o'r astudiaeth yn cynnwys modiwl academaidd a fydd yn addysgu'r wybodaeth a'r sgiliau hanfodol fel y'u diffinnir gan y fframwaith prentisiaeth a'r modiwl dysgu yn y gwaith. Yn ystod Cam 3, bydd y prentis hefyd yn cwblhau modiwl prosiect cyfrifiadur a TG i gloi'r rhaglen.

Cam 1

Yng Ngham 1 bydd y prentis yn dilyn un o ddau lwybr, rhwydweithio (i'r rhai sy'n dilyn yr arbenigedd mewn rheoli seiberddiogelwch) neu beirianneg meddalwedd (i'r rhai sy'n dilyn naill ai'r arbenigeddau mewn peirianneg meddalwedd neu wyddor data). Bydd y wybodaeth a'r sgiliau ar y lefel hon yn canolbwyntio ar gefnogi prentisiaid i gyflawni tasgau ymarferol i'w cyflogwr yn eu harbenigedd. Bydd y cam hwn yn datblygu gwybodaeth a sgiliau technegol craidd fel y gall y prentisiaid ddarparu gwerth i'w cyflogwyr cyn gynted â phosibl yn ystod y brentisiaeth. Yn ogystal, byddant yn datblygu sgiliau academaidd sy'n gysylltiedig ag astudio a chyfathrebu, a sgiliau cyflogadwyedd sy'n gysylltiedig â gweithio'n annibynnol.

Modiwlau Cam 1

  • Sylfeini Digidol: Mae'r modiwl hwn yn darparu'r wybodaeth a'r sgiliau sylfaenol sy'n gysylltiedig â chyfrifiadura yn fframwaith Prentisiaeth Gradd Ddigidol Lefel 6 ar gyfer pob arbenigedd.
  • Ymarfer Digidol yn Seiliedig ar Waith 1: Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i roi'r wybodaeth a'r sgiliau a archwiliwyd yn y modiwl Sylfeini Digidol ar waith, yng nghyd-destun eich cyflogaeth.

Cam 2

Yn ystod Cam 2 bydd y prentis yn datblygu ei ddealltwriaeth o'i arbenigedd dewisol, yn cryfhau ei sgiliau academaidd, ac yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd sy'n gysylltiedig â gwaith tîm.

Modiwlau Cam 2

  • Egwyddorion Digidol: Bydd y modiwl hwn yn datblygu gwybodaeth a sgiliau craidd fframwaith Gradd-brentisiaeth Ddigidol Lefel 6 ac yn darparu cyfleoedd i brentisiaid arbenigo yn eu maes dewisol.
  • Ymarfer Digidol yn Seiliedig ar Waith 2: Mae'r modiwl hwn yn galluogi prentisiaid i gymhwyso'r wybodaeth a'r sgiliau a ddysgwyd yn y modiwl Egwyddorion Digidol yn y gweithle, gan eu dwyn ynghyd yng nghyd-destun prosiect gweithle.

Modiwlau Cam 2 – yn amodol ar gymeradwyaeth, i’w cadarnhau erbyn Mawrth 2026.

Cam 3

Yng Ngham 3 bydd y prentis yn datblygu dealltwriaeth uwch o'u harbenigedd dewisol, yn cryfhau eu sgiliau academaidd, ac yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd sy'n gysylltiedig â rheolaeth ac arweinyddiaeth. Yn y cam hwn mae modiwl prosiect terfynol 30 credyd hefyd.

Modiwlau Cam 3

  • Digidol Uwch: Mae'r modiwl hwn yn ymdrin â phynciau uwch yn y fframwaith Gradd-brentisiaeth Ddigidol, fel arweinyddiaeth a rheolaeth, i gyd yng nghyd-destun arbenigedd dewisol y prentis.
  • Ymarfer Digidol yn Seiliedig ar Waith 3: Mae'r modiwl hwn yn rhoi'r cyfle olaf i brentisiaid ddatblygu a gwreiddio'r wybodaeth a'r sgiliau a ddysgwyd trwy'r brentisiaeth yn eu gweithle.
  • Prosiect Cyfrifiadura a TG: Y prosiect yw cam olaf y rhaglen brentisiaeth. Mae'n rhoi cyfle i weithio ar bwnc cyffrous a diddorol o'u dewis ac i ddangos eu gallu i weithio'n annibynnol gan ddefnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth y maent wedi'u hennill o'u hastudiaethau drwy gydol eu rhaglen gradd-brentisiaeth.

Modiwlau Cam 3 – yn amodol ar gymeradwyaeth, i’w cadarnhau erbyn Mawrth 2027.

Rydym yn adolygu ein cwricwlwm yn rheolaidd; felly gall y cymhwyster a ddisgrifir ar y dudalen hon – gan gynnwys ei argaeledd, ei strwythur, a'r modiwlau sydd ar gael – newid dros amser. Os byddwn yn gwneud newidiadau i'r cymhwyster hwn, byddwn yn diweddaru'r dudalen hon cyn gynted â phosibl. Unwaith y byddwch wedi cofrestru neu'n astudio'r cymhwyster hwn, lle'n ymarferol, byddwn yn rhoi gwybod i chi mewn da bryd o unrhyw newidiadau sydd ar ddod. Os hoffech wybod mwy am yr amgylchiadau lle gallai'r Brifysgol wneud newidiadau i'r cwricwlwm, gweler ein Rheoliadau Academaidd neu cysylltwch â ni. Diweddarwyd y disgrifiad hwn ddiwethaf ar 03/12/2025.


Eisiau gwybod mwy?

Am fwy o fanylion am bob modiwl a sut maen nhw'n cael eu hasesu, lawrlwythwch y llyfryn rhaglen.

Lawrlwytho’r llyfryn

Strwythur astudiaethau

Mae'r Brifysgol Agored yn arweinydd byd-eang mewn dysgu hyblyg, seiliedig ar waith, gyda dros 50 mlynedd o brofiad mewn addysg o bell. Mae ein dull yn caniatáu i brentisiaid gydbwyso astudio â'u swydd wrth sicrhau effaith uniongyrchol yn y gweithle.

  • Dysgu unrhyw bryd, unrhyw le: mynediad at gynnwys 24/7 ar liniaduron, tabledi neu ffonau symudol.
  • Cefnogaeth tiwtoriaid a dysgu gan gymheiriaid: mae tiwtorialau, fforymau a grwpiau trafod ar-lein yn cysylltu prentisiaid â thiwtoriaid arbenigol a chymheiriaid yn y diwydiant.
  • Darpariaeth sy'n gyfeillgar i gyflogwyr: mae ein model hyblyg yn gwneud hyfforddiant oddi allan i'r gwaith yn haws i'w reoli gyda'r amhariad lleiaf posibl ar gynhyrchiant.

Cefnogir pob modiwl gan blatfform ar-lein pwrpasol gyda:

  • Cynlluniwr astudio wythnos i wythnos, gan ddarparu canllaw cam wrth gam drwy'ch astudiaethau
  • Deunyddiau cwrs megis deunydd darllen, fideos, recordiadau, a gweithgareddau hunanasesu
  • Fforymau modiwl ar gyfer trafodaethau a gweithgareddau cydweithredol gyda myfyrwyr eraill
  • Manylion pob aseiniad a'u dyddiadau cau
  • System archebu tiwtorialau, ystafelloedd tiwtorial ar-lein, a manylion cyswllt eich tiwtor
  • Fersiynau ar-lein o rai deunyddiau ac adnoddau modiwl wedi'u hargraffu.

Os oes gennych anghenion ychwanegol, gallwn hefyd ddarparu'r rhan fwyaf o ddeunyddiau modiwl mewn fformatau amgen. Dysgwch fwy am ddeunyddiau ar ein tudalen we hygyrchedd.


Llwyth Gwaith

Mae prentisiaethau’n cyfuno profiad ymarferol â dysgu strwythuredig, a hynny i gyd o fewn oriau gwaith arferol gydag o leiaf 20% o’r amser wythnosol wedi’i neilltuo i ddysgu strwythuredig, a elwir yn hyfforddiant oddi ar y gwaith, a gan mai rhaglen y Brifysgol Agored yw hon, gellir ei lledaenu’n hyblyg ar draws pob wythnos.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalen Gwybodaeth i Brentisiaid.


Eisiau gwybod mwy?

Lawrlwythwch ein llyfryn rhaglen i gael manylion llawn y radd-brentisiaeth hon.

Lawrlwytho’r llyfryn

Cyflogwyr

  • Mae busnesau o bob maint ac ar draws pob sector yng Nghymru yn gymwys i gael cyllid gan y llywodraeth a fydd yn talu 100% o gost y rhaglen brentisiaeth hon.
  • Y cyflogwr sy'n gyfrifol am dalu cyflog y prentis ac am unrhyw hyfforddiant ychwanegol.
  • Mae cymhellion ychwanegol ar gael weithiau i gefnogi cyflogwyr – edrychwch ar y dudalen prentisiaethau Medr am y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae rhagor o wybodaeth am gyllid ar gael yma.

Prentisiaid

  • Nid oes unrhyw ffioedd i'w talu ar gyfer prentisiaid gan fod y cyllid yn cael ei ddarparu gan Medr.

Yn y Brifysgol Agored, rydyn ni'n gwybod bod prentisiaethau llwyddiannus yn dibynnu ar y gefnogaeth gywir. Ochr yn ochr â thiwtoriaid arbenigol, mae prentisiaid a chyflogwyr yn elwa o ystod eang o dimau cymorth.

Dysgu fwy am sut mae'r Brifysgol Agored yn cefnogi prentisiaid

Pan fyddwch chi'n barod i ddechrau'r broses o gyflwyno cais am brentisiaeth, mae ychydig o gamau syml i gyflogwyr a phrentisiaid. Mae ein tîm yma i'ch cefnogi yn ystod pob cam i sicrhau profiad cynefino llyfn ac effeithlon.

Cyflogwyr

Cyswllt cychwynnol

Cysylltu â ni i fynegi'ch diddordeb yn y rhaglen brentisiaeth.

Ymgynghoriad rhaglen

Bydd o'n Rheolwyr Cyfrif yn cysylltu â chi i drafod anghenion eich sefydliad a manylion y rhaglen.

Cadarnhau a gwaith papur

Unwaith y byddwch yn cadarnhau yr hoffech barhau, byddwn yn eich arwain drwy'r ddogfennaeth angenrheidiol.

`

Cyflwyno manylion prentis

Rhowch enwau a manylion cyswllt eich prentis(iaid) dewisol i ni.

Bydd y Brifysgol Agored yn cysylltu â'r prentis ac yn eu gwahodd i gyflwyno cais

Am ragor o wybodaeth i gyflogwyr, gweler yr adnoddau canlynol:

Prentisiaid

Cyswllt cychwynnol

Gofynnwch i'ch cyflogwr gysylltu â ni i ddechrau'r broses.

Gwahoddiad i ymgeisio

Unwaith y bydd y broses i gyflogwr wedi'i chwblhau, byddwn yn eich gwahodd i wneud cais.

Cyflwyno tystiolaeth a chais

Paratowch a chyflwynwch unrhyw ddogfennau gofynnol i wirio'ch cymhwysedd a chwblhau'ch cais.

Penderfyniad

Bydd y Brifysgol Agored yn adolygu eich cais ac yn rhoi gwybod i chi p'un a ydych wedi cael cynnig lle.

Cwrdd â'ch tîm cymorth rhaglen

Fel rhan o'r broses gynefino, byddwch yn cael eich cyflwyno i'r Rheolwr Cyflwyno Rhaglen Prentisiaeth (APDM a/neu Diwtor Ymarfer).

Cychwyn y broses cyn-astudio

Ar ôl cofrestru'n llwyddiannus, byddwch yn cael mynediad at ddeunyddiau cyn-astudio i'ch helpu i baratoi ar gyfer y cwrs.

Am ragor o wybodaeth am brentisiaethau a bod yn brentis, gweler Gwybodaeth i brentisiaid.

Am fanylion pellach, gweler yr adnoddau canlynol:

  • Fframwaith Prentisiaeth: Mae fframwaith y brentisiaeth yn diffinio'r opsiynau llwybr a'r lefelau sy'n berthnasol i'r rhaglen hon.
  • Rheoliadau'r cymhwyster: Bydd rheoliadau'r Brifysgol sy'n berthnasol i'r brentisiaeth hon, ynghyd â rheoliadau academaidd arferol, yn cael eu cyhoeddi ym mis Mawrth 2026
  • Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL): Efallai y byddwch yn gallu defnyddio dysgu blaenorol perthnasol i leihau hyd y rhaglen. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyn drwy gysylltu â ni heddiw.
  • Asesiad drwy gyfrwng y Gymraeg: Gall prentisiaid ddewis cwblhau asesiadau—megis aseiniadau ysgrifenedig, arholiadau a phrosiectau—drwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol Agored.
  • Siaradwyr Cymraeg: Rydym yn cefnogi dewis ieithyddol prentisiaid Cymraeg eu hiaith er mwyn sicrhau bod asesiadau'n adlewyrchu eu hiaith ddewisol ac os byddwch yn rhoi gwybod i ni eich bod yn siarad Cymraeg, gallwn hefyd eich paru â thiwtor ymarfer sy'n siarad Cymraeg hefyd.

Y camau nesaf

Ar gyfer cyflogwyr

  • Lawrlwythwch y llyfryn: Edrychwch ar fanylion llawn ein rhaglen, gan gynnwys strwythur, cefnogaeth a chanlyniadau - perffaith ar gyfer rhannu gyda rhanddeiliaid mewnol.
  • Cysylltwch â'n tîm pwrpasol: Cliciwch y botwm isod i gysylltu a darganfod sut y gall ein prentisiaethau gradd gefnogi twf a thargedau datblygu talent eich sefydliad.
Cysylltwch nawr

Ar gyfer prentisiaid

  • Eisoes yn derbyn cymorth? Gwych! Rhannwch y dudalen hon gyda'ch cyflogwr a gofynnwch iddyn nhw gysylltu â ni yma.
  • Yn gyflogedig ond heb eich noddi eto? Cymerwch y cam cyntaf drwy adolygu ein canllaw ar sut i gysylltu â'ch cyflogwr ynglŷn â chyfleoedd prentisiaeth.
  • Chwilio am gyflogwr? Ewch i wefan prentisiaethau’r llywodraeth i ddod o hyd i swyddi gwag cyfredol, neu archwiliwch ein rhaglenni gradd i weld ble gallai eich taith ddysgu ddechrau.

Cwestiynau cyffredin

Mae graddedigion y Radd-brentisiaeth Ddigidol yn darparu atebion sy'n cael eu galluogi gan dechnoleg i randdeiliaid mewnol a/neu allanol mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys peirianneg meddalwedd, rheoli seiberddiogelwch a gwyddor data.

I wneud cais am raglen brentisiaeth dylech fod wedi'ch cyflogi mewn rôl berthnasol a chael cymeradwyaeth eich cyflogwr.

Darllenwch ein canllawiau ynglŷn â chael cefnogaeth eich cyflogwr yma.

Fel arweinwyr mewn dysgu ar-lein â chymorth, mae'r Brifysgol Agored wedi datblygu llwyfannau dysgu digidol sy'n dilyn arfer gorau. Bydd prentisiaid yn dysgu ar-lein ac yn cael eu cefnogi gyda galwadau digidol a chyfarfodydd gan eu tîm cymorth.

Efallai y byddwch yn gallu defnyddio dysgu blaenorol perthnasol i leihau hyd y rhaglen. Dysgwch fwy am Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) drwy gysylltu â ni heddiw.

I gwblhau'r rhaglen, bydd angen y canlynol ar brentisiaid:

  • Mynediad i'r rhyngrwyd a dyfais sy'n gallu cysylltu â'r rhyngrwyd (argymhellir cyfrifiadur bwrdd gwaith neu liniadur)
  • Gwe-gamera a meicroffon ar gyfer tiwtorialau ar-lein (argymhellir clustffonau â gwifrau)

Lle mae angen meddalwedd ychwanegol, rydym yn darparu mynediad neu ddewisiadau amgen am ddim.

Lle defnyddir offer technegol, byddwn yn darparu mynediad drwy’r Labordy Cyfrifiadura Agored | Cyfadran Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, lle gall prentisiaid gael mynediad at amgylcheddau cyfrifiadura ar-lein ar gyfer dadansoddi data a rhaglennu drwy eu porwr gwe.

Am fanylion llawn ynghylch gofynion dyfeisiau ar gyfer y rhaglen hon, cysylltwch â'n tîm.