Mae Gradd-brentisiaeth Ddigidol y Brifysgol Agored (yng Nghymru) yn datblygu gweithwyr proffesiynol hyderus a galluog sydd â'r sgiliau i bweru trawsnewid digidol ar draws pob sector.
Mae ein model dysgu hyblyg unigryw yn galluogi prentisiaid i ffynnu yn eu hastudiaethau ochr yn ochr ag ymrwymiadau gwaith, tra bod cyflogwyr yn elwa o biblinell gynaliadwy o dalent ym maes technoleg sy'n addas ar gyfer y dyfodol, sy'n amrywiol ac yn alluog — i gyd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Medr, gyda chefnogaeth gan yr Ardoll Brentisiaethau ledled y DU.
Rydym yn croesawu ymholiadau a cheisiadau ar hyn o bryd ar gyfer y rhaglen hon. Noder y bydd cynigion lleoedd yn cael eu cadarnhau unwaith y bydd dyraniadau cyllid prentisiaeth i'r Brifysgol Agored gan Medr ar gyfer Hydref 2026 wedi'u cwblhau.
Lefel: Gradd-brentisiaeth Ddigidol Lefel 6
Dull astudio: Dysgu ar-lein/cymysg gyda chefnogaeth tiwtor
Hyd: 3 blynedd
Cyllid: Gweler ffioedd a chyllid
Gofynion mynediad: Gweler y gofynion mynediad
Ar gael yn: Cymru'n unig (yn destun i gadarnhad o ddyraniadau gan Medr)
Yn chwilio am hyfforddiant yn Lloegr? Edrychwch ar ein Gradd-brentisiaeth Broffesiynol Datrysiadau Digidol a Thechnoleg.
Mae'r Gradd-brentisiaeth Ddigidol yn rhaglen addysg uwch sy'n seiliedig ar waith ac sy'n integreiddio dysgu academaidd a dysgu seiliedig ar waith mewn ffordd y gellir ei chyflwyno'n hyblyg o amgylch gofynion eich gweithle.
Wrth i dechnolegau gydgyfeirio a chyflymder newid digidol gyflymu, mae'r rhaglen hon yn cefnogi prentisiaid i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau craidd angenrheidiol i gyfrannu at brosiectau digidol ar draws eich sefydliad, yn ogystal â'r meddylfryd i'w galluogi i uwchraddio'n barhaus wrth i dechnolegau ddatblygu.
Mae'r Radd-brenisiaeth Ddigidol graidd yn darparu'r ddealltwriaeth dechnegol eang i weithredu fel rhan o dîm ehangach sy'n gweithio gydag arbenigwyr ym maes dadansoddi, dylunio, adeiladu, gwerthuso a diogelwch meddalwedd, atebion data, gwasanaethau a rhwydweithiau. Mae hyn yn cynnwys y gallu i gefnogi strategaeth busnes a rheoli, gweithio gyda defnyddwyr terfynol, a datblygu datrysiadau.
Yn ychwanegol i'r rhaglen graidd, mae'r Brifysgol Agored yn cynnig tri arbenigedd lle bydd prentisiaid yn datblygu sgiliau ymarferol, gwybodaeth a chymhwysedd lefel uwch mewn:
Rheoli Diogelwch Seiber
Gwyddor Data
Peirianneg Meddalwedd
Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio ar gyfer unigolion sydd am ddatblygu eu gyrfaoedd mewn peirianneg meddalwedd, gwyddor data neu reoli diogelwch seiber.
Gwyliwch y fideo isod i weld sut rydym yn gweithio gyda'r cwmni yswiriant Admiral i ddarparu gradd-brentisiaethau digidol yng Nghymru.
Nid oes rhaid i brentisiaid gael cymwysterau ffurfiol i ddechrau'r rhaglen hon, ond mae'n rhaid i brentisiaid fod wedi'u cyflogi gan sefydliad sy'n fodlon eu cefnogi drwy'r brentisiaeth.
I fod yn gymwys i gael cyllid gan y llywodraeth, rhaid i brentisiaid:
Mae'r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sy'n anelu at ddatblygu gyrfaoedd mewn rheoli seiberddiogelwch, gwyddor data neu beirianneg meddalwedd. Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar yr adran 'Ar gyfer pwy mae'r rhaglen hon?' uchod.
Yn chwilio am raglenni yn Lloegr? Edrychwch ar ein Gradd-brentisiaeth Broffesiynol Datrysiadau Digidol a Thechnoleg.
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, bydd prentisiaid yn ennill Gradd-brentisiaeth Ddigidol BSc (Anrhydedd) gan y Brifysgol Agored.
Mae'r radd-brentisiaeth hon wedi'i datblygu o'r cychwyn cyntaf i ddiwallu anghenion gweithle heddiw. Mae pob modiwl wedi'i greu gan ein hacademyddion o'r radd flaenaf yn benodol ar gyfer ein prentisiaethau digidol, felly gallwch fod yn hyderus bod y dysgu'n gyfredol, yn berthnasol i'r diwydiant ac wedi'i gynllunio i gyflawni effaith o'r diwrnod cyntaf.
Gyda mwy na 50 mlynedd o arbenigedd mewn addysg o bell ac enw da ledled y byd am ddysgu hyblyg, mae'r Brifysgol Agored yn arweinydd mewn datblygu gradd-brentisiaethau sy'n cyfuno trylwyredd â pherthnasedd i'r byd go iawn.
Mae ein henw da am ansawdd yn cael ei gydnabod yn genedlaethol:
Cwrdd â rhai o'r arbenigwyr a fydd yn eich tywys ar eich taith:
Darlithydd mewn Cyfrifiadura a Chyfathrebu yn arbenigo mewn Rhwydweithio a Seiberddiogelwch
Uwch Ddarlithydd a Thiwtor Staff, arbenigwr mewn peirianneg meddalwedd, addysg gyfrifiadurol, prentisiaethau, dylunio cwricwlwm, a sicrhau ansawdd
Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadura a Chyfathrebu (Gradd-brentisiaethau Digidol), yn arbenigo mewn seiberddiogelwch, dadansoddi data, a rheoli prosiectau
Mae'r rhaglen hon wedi'i datblygu o amgylch set graidd o bynciau, wedi'u hategu gan gynnwys arbenigol wedi'i deilwra i un o'r tri maes arbenigedd canlynol gan alluogi prentisiaid i adeiladu sylfaen gadarn wrth ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eu harbenigedd dewisol.
Mae'r brentisiaeth tair blynedd hon wedi'i chynllunio i gael ei chwblhau mewn tri cham. Mae pob cam o'r astudiaeth yn cynnwys modiwl academaidd a fydd yn addysgu'r wybodaeth a'r sgiliau hanfodol fel y'u diffinnir gan y fframwaith prentisiaeth a'r modiwl dysgu yn y gwaith. Yn ystod Cam 3, bydd y prentis hefyd yn cwblhau modiwl prosiect cyfrifiadur a TG i gloi'r rhaglen.
Yng Ngham 1 bydd y prentis yn dilyn un o ddau lwybr, rhwydweithio (i'r rhai sy'n dilyn yr arbenigedd mewn rheoli seiberddiogelwch) neu beirianneg meddalwedd (i'r rhai sy'n dilyn naill ai'r arbenigeddau mewn peirianneg meddalwedd neu wyddor data). Bydd y wybodaeth a'r sgiliau ar y lefel hon yn canolbwyntio ar gefnogi prentisiaid i gyflawni tasgau ymarferol i'w cyflogwr yn eu harbenigedd. Bydd y cam hwn yn datblygu gwybodaeth a sgiliau technegol craidd fel y gall y prentisiaid ddarparu gwerth i'w cyflogwyr cyn gynted â phosibl yn ystod y brentisiaeth. Yn ogystal, byddant yn datblygu sgiliau academaidd sy'n gysylltiedig ag astudio a chyfathrebu, a sgiliau cyflogadwyedd sy'n gysylltiedig â gweithio'n annibynnol.
Modiwlau Cam 1
Yn ystod Cam 2 bydd y prentis yn datblygu ei ddealltwriaeth o'i arbenigedd dewisol, yn cryfhau ei sgiliau academaidd, ac yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd sy'n gysylltiedig â gwaith tîm.
Modiwlau Cam 2
Modiwlau Cam 2 – yn amodol ar gymeradwyaeth, i’w cadarnhau erbyn Mawrth 2026.
Yng Ngham 3 bydd y prentis yn datblygu dealltwriaeth uwch o'u harbenigedd dewisol, yn cryfhau eu sgiliau academaidd, ac yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd sy'n gysylltiedig â rheolaeth ac arweinyddiaeth. Yn y cam hwn mae modiwl prosiect terfynol 30 credyd hefyd.
Modiwlau Cam 3
Modiwlau Cam 3 – yn amodol ar gymeradwyaeth, i’w cadarnhau erbyn Mawrth 2027.
Rydym yn adolygu ein cwricwlwm yn rheolaidd; felly gall y cymhwyster a ddisgrifir ar y dudalen hon – gan gynnwys ei argaeledd, ei strwythur, a'r modiwlau sydd ar gael – newid dros amser. Os byddwn yn gwneud newidiadau i'r cymhwyster hwn, byddwn yn diweddaru'r dudalen hon cyn gynted â phosibl. Unwaith y byddwch wedi cofrestru neu'n astudio'r cymhwyster hwn, lle'n ymarferol, byddwn yn rhoi gwybod i chi mewn da bryd o unrhyw newidiadau sydd ar ddod. Os hoffech wybod mwy am yr amgylchiadau lle gallai'r Brifysgol wneud newidiadau i'r cwricwlwm, gweler ein Rheoliadau Academaidd neu cysylltwch â ni. Diweddarwyd y disgrifiad hwn ddiwethaf ar 03/12/2025.
Eisiau gwybod mwy?
Am fwy o fanylion am bob modiwl a sut maen nhw'n cael eu hasesu, lawrlwythwch y llyfryn rhaglen.
Lawrlwytho’r llyfrynMae'r Brifysgol Agored yn arweinydd byd-eang mewn dysgu hyblyg, seiliedig ar waith, gyda dros 50 mlynedd o brofiad mewn addysg o bell. Mae ein dull yn caniatáu i brentisiaid gydbwyso astudio â'u swydd wrth sicrhau effaith uniongyrchol yn y gweithle.
Cefnogir pob modiwl gan blatfform ar-lein pwrpasol gyda:
Os oes gennych anghenion ychwanegol, gallwn hefyd ddarparu'r rhan fwyaf o ddeunyddiau modiwl mewn fformatau amgen. Dysgwch fwy am ddeunyddiau ar ein tudalen we hygyrchedd.
Mae prentisiaethau’n cyfuno profiad ymarferol â dysgu strwythuredig, a hynny i gyd o fewn oriau gwaith arferol gydag o leiaf 20% o’r amser wythnosol wedi’i neilltuo i ddysgu strwythuredig, a elwir yn hyfforddiant oddi ar y gwaith, a gan mai rhaglen y Brifysgol Agored yw hon, gellir ei lledaenu’n hyblyg ar draws pob wythnos.
Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalen Gwybodaeth i Brentisiaid.
Eisiau gwybod mwy?
Lawrlwythwch ein llyfryn rhaglen i gael manylion llawn y radd-brentisiaeth hon.
Lawrlwytho’r llyfrynMae rhagor o wybodaeth am gyllid ar gael yma.
Yn y Brifysgol Agored, rydyn ni'n gwybod bod prentisiaethau llwyddiannus yn dibynnu ar y gefnogaeth gywir. Ochr yn ochr â thiwtoriaid arbenigol, mae prentisiaid a chyflogwyr yn elwa o ystod eang o dimau cymorth.
Dysgu fwy am sut mae'r Brifysgol Agored yn cefnogi prentisiaid
Pan fyddwch chi'n barod i ddechrau'r broses o gyflwyno cais am brentisiaeth, mae ychydig o gamau syml i gyflogwyr a phrentisiaid. Mae ein tîm yma i'ch cefnogi yn ystod pob cam i sicrhau profiad cynefino llyfn ac effeithlon.
Cysylltu â ni i fynegi'ch diddordeb yn y rhaglen brentisiaeth.
Bydd o'n Rheolwyr Cyfrif yn cysylltu â chi i drafod anghenion eich sefydliad a manylion y rhaglen.
Unwaith y byddwch yn cadarnhau yr hoffech barhau, byddwn yn eich arwain drwy'r ddogfennaeth angenrheidiol.
Rhowch enwau a manylion cyswllt eich prentis(iaid) dewisol i ni.
Am ragor o wybodaeth i gyflogwyr, gweler yr adnoddau canlynol:
Gofynnwch i'ch cyflogwr gysylltu â ni i ddechrau'r broses.
Unwaith y bydd y broses i gyflogwr wedi'i chwblhau, byddwn yn eich gwahodd i wneud cais.
Paratowch a chyflwynwch unrhyw ddogfennau gofynnol i wirio'ch cymhwysedd a chwblhau'ch cais.
Bydd y Brifysgol Agored yn adolygu eich cais ac yn rhoi gwybod i chi p'un a ydych wedi cael cynnig lle.
Fel rhan o'r broses gynefino, byddwch yn cael eich cyflwyno i'r Rheolwr Cyflwyno Rhaglen Prentisiaeth (APDM a/neu Diwtor Ymarfer).
Ar ôl cofrestru'n llwyddiannus, byddwch yn cael mynediad at ddeunyddiau cyn-astudio i'ch helpu i baratoi ar gyfer y cwrs.
Am ragor o wybodaeth am brentisiaethau a bod yn brentis, gweler Gwybodaeth i brentisiaid.
Am fanylion pellach, gweler yr adnoddau canlynol:
Mae graddedigion y Radd-brentisiaeth Ddigidol yn darparu atebion sy'n cael eu galluogi gan dechnoleg i randdeiliaid mewnol a/neu allanol mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys peirianneg meddalwedd, rheoli seiberddiogelwch a gwyddor data.
I wneud cais am raglen brentisiaeth dylech fod wedi'ch cyflogi mewn rôl berthnasol a chael cymeradwyaeth eich cyflogwr.
Darllenwch ein canllawiau ynglŷn â chael cefnogaeth eich cyflogwr yma.
Fel arweinwyr mewn dysgu ar-lein â chymorth, mae'r Brifysgol Agored wedi datblygu llwyfannau dysgu digidol sy'n dilyn arfer gorau. Bydd prentisiaid yn dysgu ar-lein ac yn cael eu cefnogi gyda galwadau digidol a chyfarfodydd gan eu tîm cymorth.
Efallai y byddwch yn gallu defnyddio dysgu blaenorol perthnasol i leihau hyd y rhaglen. Dysgwch fwy am Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) drwy gysylltu â ni heddiw.
I gwblhau'r rhaglen, bydd angen y canlynol ar brentisiaid:
Lle mae angen meddalwedd ychwanegol, rydym yn darparu mynediad neu ddewisiadau amgen am ddim.
Lle defnyddir offer technegol, byddwn yn darparu mynediad drwy’r Labordy Cyfrifiadura Agored | Cyfadran Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, lle gall prentisiaid gael mynediad at amgylcheddau cyfrifiadura ar-lein ar gyfer dadansoddi data a rhaglennu drwy eu porwr gwe.
Am fanylion llawn ynghylch gofynion dyfeisiau ar gyfer y rhaglen hon, cysylltwch â'n tîm.