Mae cyrsiau byr yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau proffesiynol newydd mewn cyfnod byr o amser.
Mae ein cyrsiau byr yn rhoi cyfleoedd dysgu cryno, hawdd eu prosesu, i fusnesau a'u dysgwyr, heb orfod ymrwymo i gymhwyster cyfan.
Unrhyw un yn eich sefydliad sydd eisiau gwella eu gwybodaeth a'u sgiliau technegol mewn maes penodol. Efallai y bydd angen peth wybodaeth broffesiynol flaenorol.
A chithau'n gyflogwr, mae cyrsiau byr yn ffordd wych o feithrin sgiliau newydd o fewn eich tîm. Mae dros 40 o gyrsiau ar gael ym maes busnes, iaith a gwyddoniaeth.
Bydd angen astudio am oddeutu 50 awr i gwblhau'r rhan fwyaf o gyrsiau byr.
Gallwch ddewis o amrywiaeth o gyrsiau byr, gan gynnwys sgiliau trosglwyddadwy proffesiynol y mae galw amdanynt, megis rheoli prosiect a chyllid.
Pa un ai eich bod yn ceisio dringo ysgol eich sefydliadu neu redeg eich cwmni eich hun, mae ein cyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn ymdrin ag amrywiaeth o ddisgyblaethau gan gynnwys arwain, rheoli a chyrsiau pwnc arbenigol all eich helpu chi i ddatblygu'r sgiliau, y wybodaeth a'r rhinweddau sydd eu hangen.
Gallwch ddewis o amrywiaeth o bynciau a all eich helpu chi i adeiladu set sgiliau newydd, rhoi cynnig ar hobi newydd, neu wella'ch gallu i gyfathrebu.
English | Cymraeg
Please contact us to speak to one of our business team advisors.
Sign up to receive regular emails that are full of advice and resources to support staff development in your organisation.